Rydyn ni’n gweithio gydag Utility Aid i gasglu mewnwelediadau ar yr ynni a ddefnyddir gan y sector gwirfoddol, gan edrych ar botensial ein pŵer prynu cyfunol a helpu mudiadau i leihau costau rhedeg.
Mae’r tair blynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd i’r mwyafrif o ddiwydiannau, ond mae’r sector gwirfoddol wedi’i fwrw’n galed. Amcangyfrifir fod *costau cyfleustodau wedi cynyddu dros 60% i un rhan o dair o elusennau lleol y DU. Yn ogystal â hyn, yn nhon ddiweddaraf *system olrhain trydydd sector SCVO, dywedodd 46% o fudiadau gwirfoddol yr Alban fod eu costau ynni yn effeithio ar eu gallu i ddarparu gwasanaethau craidd.
Yng Nghymru, gwyddom fod llawer o fudiadau eisiau bod yn fwy gwyrdd ac yn chwilio am gyflenwad ynni mwy fforddiadwy. I’n helpu ni i edrych ar gynllun swmp-brynu posibl ar gyfer ynni adnewyddadwy, rydym yn chwilio am ragor o fanylion ar eich blaenoriaethau ac anghenion ynni.
Mewn cydweithrediad ag CGGC, mae Utility Aid wedi lansio arolwg i ganfod beth ellir ei wneud i helpu mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i leihau eu costau rhedeg a dod yn fwy gwyrdd.
PAM CYMRYD RHAN?
Trwy gwblhau’r arolwg, byddwch yn helpu Utility Aid i gael mewnwelediad mawr ei angen a lansio cynllun prynu cyfunol sy’n addas i’r sector gwirfoddol. Bydd hefyd yn grymuso arweinwyr elusennau i wneud y penderfyniadau cywir wrth brynu ynni glân a gynhyrchir mewn modd moesegol.
CYMRYD RHAN YN YR AROLWG
Bydd eich atebion mewn unrhyw adroddiadau cyhoeddus a gynhyrchir yn ddienw, ac nid oes angen i chi ddarparu unrhyw ddata personol oni bai eich bod yn hapus i Utility Aid gysylltu â chi. Bydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu rhannu gydag CGGC ac Utility Aid.
RHAGOR AM SUT RYDYM YN DEFNYDDIO EICH DATA
Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eich data, darllenwch hysbysiad preifatrwydd CGGC a *datganiad preifatrwydd Utility Aid.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg, anfonwch e-bost i partnerships@utility-aid.co.uk.
*Saesneg yn unig