Dyn mewn siaced 'hi-vis' yn garddio gyda Canolfan Ymddieidolaeth Dywyllianol Awen Canolfan B-Leaf. Mae B-Leaf yn fenter seiliedig ar waith ar gyfer oedolion ag anableddau wedi'i lleoli o fewn yr Barc Gwledig Bryngarw

£2.25 miliwm o gyllid wedi’i gyhoeddi i’r sector gwirfoddol

Cyhoeddwyd : 28/06/21 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Prif Weinidog, y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, wedi cyhoeddi y bydd CGGC yn ddosbarthu £2.25 miliwn ychwanegol o gyllid i’r sector gwirfoddol yng Nghymru trwy’r Cronfa Wydnwch y Trydydd Sector.

Gan siarad yn lansiad swyddogol gofod3 – a ganslwyd y llynedd oherwydd y pandemig, ac sydd bellach yn ddigwyddiad pum diwrnod, ar-lein – mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi’r dyfarniad ac wedi amlinellu gweledigaeth ei lywodraeth i’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Cyn ei araith, dywedodd Prif Weinidog Cymru:

‘Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â’n cymorth i’r Trydydd Sector yn ei waith pwysig iawn. Rydym yn lansio ein Cronfa Wydnwch y Trydydd Sector ddiweddaraf, er mwyn helpu i ddiogelu mudiadau’r Trydydd Sector sy’n parhau i fod yn agored i niwed, a rhoi eraill mewn safle mwy cadarn.

‘Byddwn ni eto’n gweithio gyda CGGC i ddosbarthu’r cyllid hwn, a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch iddynt am y gwaith y maen nhw wedi’i wneud yn y flwyddyn ddiwethaf i gefnogi’r sector.’

Mae Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru wedi rhoi cymorth unigryw i 235 o fudiadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru ers mis Ebrill 2020. Mae nawr yn ei thrydedd cam. Mae’r £2.25 miliwn yn ychwanegol i’r £24 miliwn o gymorth a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru (Saesneg yn unig) a bydd yn symud i ffwrdd o’r gymysgedd flaenorol o grant a benthyciad di-log, ac yn cynnig hyd at £50 mil o grant ‘goroesi a ffynnu’ i fudiadau’r sector gwirfoddol.

Yn ystod y cam hwn o’r cyllido, bydd CGGC yn blaenoriaethu mudiadau nad ydynt wedi’u cyllido’n flaenorol o’r ddau gam gyntaf y gronfa hon a’r rheini sy’n cynnig cymorth i bobl â nodweddion gwarchodedig.

Dywedodd Ruth Marks, Prif Weithredwr CGGC:

’Rydyn ni wrth ein boddau i fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru eto, yn dosbarthu arian hanfodol i’r sector gwirfoddol. Bydd trydydd cam y gronfa benodol hon – Cronfa Wydnwch y Trydydd Sector – yn canolbwyntio ar gynorthwyo’r sector i ‘oroesi a ffynnu’, gan weithio tuag at adferiad teg a chyfiawn, a dyma pam mae’r penderfyniad wedi’i wneud i roi blaenoriaeth i fudiadau sy’n gweithio gyda nodweddion gwarchodedig.

‘Mae’r cyllid hwn yn benderfyniad bwriadol – a chroesawgar – ar ran Llywodraeth Cymru i gefnogi gwirfoddolwyr, elusennau a mentrau cymdeithasol yng Nghymru, y profwyd llawer ohonynt i fod yn hanfodol yn yr ymateb cenedlaethol i Covid-19.’

Mae’r sector gwirfoddol wedi chwarae rhan hanfodol drwy gydol y pandemig. Heb waith hanfodol elusennau a grwpiau cymunedol, byddai’r flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn llawer mwy heriol i lawer o bobl. Mae Cymru wedi gweld ymchwydd enfawr o ran gwirfoddoli ac ysbryd cymunedol, ac mae’r sector yn gyffredinol yn awyddus i wneud yn siŵr bod yr ysbryd hwn yn parhau. Ni fu erioed mwy o angen am y sector, yn enwedig wrth i Gymru ddechrau ar ei gwaith o ailgodi’n gryfach.

Eglura Rachel Morgan, Pennaeth Cynhyrchu Incwm yn Parlys yr Ymennydd Cymru, fuddion camau blaenorol y Gronfa:

‘Heb gyllid CGGC, byddem wedi cael anhawster i gynnal ein gwasanaethau unigryw i blant a theuluoedd, ac ni fyddem wedi gallu meddwl yn greadigol a dod o hyd i ffyrdd eraill o godi arian.

‘Y llynedd, torrwyd ein hincwm 45%, ond gwnaeth y cyllid hwn ein galluogi i achub swyddi therapi ac arallgyfeirio ein ffynonellau incwm. Trwy gefnogi rhywfaint o gostau cyflog craidd yr elusen, mae cyllid brys Covid-19 wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar ein gallu i gyflwyno gwasanaethau hanfodol i gymuned sy’n dod yn fwy a mwy agored i niwed, gydag anghenion fwyfwy difrifol a chymhleth’.

MWY O FANYLION YN DOD YN FUAN

Nid yw manylion y cylch cyllido nesaf wedi’u cadarnhau eto, a bydd cyhoeddiad cyn hir ar bryd fydd y cynllun yn dechrau derbyn ceisiadau. Os hoffech fynegi eich diddordeb a chael eich hysbysu pan fydd y gronfa’n mynd yn fyw, anfonwch e-bost at sic@wcva.cymru.

AM GOFOD3

gofod3 yw’r digwyddiad mwyaf o’i fath i’r sector gwirfoddol yng Nghymru ac eleni, mae’n cael ei gynnal ar-lein, rhwng dydd Llun 28 Mehefin a dydd Gwener 2 Gorffennaf. Mae CGGC yn disgwyl i hyd at 700 o fynychwyr gymryd rhan mewn mwy na 60 o ddigwyddiadau am ddim, gan gynnwys dosbarthiadau meistr, trafodaethau panel a gweithdai er mwyn chwilio ffordd drwy’r dirwedd waith newydd ar ôl Covid.

Ewch i gofod3.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 03/02/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Gwnewch gais nawr am Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/01/25
Categorïau: Cyllid

Little Lounge – cefnogi’r gymuned leol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 22/01/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Prosiect Newid y Gêm

Darllen mwy